Rhedeg clwb

Mae clybiau Code Club yn grymuso pobl ifanc i feddwl yn greadigol a bod yn ddysgwyr gwydn. Os byddwch chi'n rhedeg clwb, byddwch chi hefyd yn meithrin eich sgiliau mentora, trefnu ac, wrth gwrs, codio.

Digwyddiadau a hyfforddiant

Datblygwch eich sgiliau a'ch hyder drwy ein cyfleoedd hyfforddi a'n digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Gweld y digwyddiadau sydd ar y gweill

Barod i ddechrau?

Ewch ati i ddechrau Code Club ar eich pen eich hun neu mewn tîm.

1. Dewiswch eich lleoliad

Mae clybiau Code Club yn cael eu cynnal mewn llawer o wahanol leoedd, fel ysgolion, llyfrgelloedd, swyddfeydd, a chanolfannau.

2. Cofrestru eich clwb

Cwblhewch eich cais i ddechrau eich clwb. Byddwn yn gofyn am rywfaint o fanylion, fel cyfeiriad eich clwb. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn gofyn i chi enwebu cefnogwr diogelu.

3. Dechrau arni

Ar ôl i'ch clwb gael ei ddilysu, edrychwch ar ganllaw Code Club i arweinwyr, sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am redeg eich clwb.

Cynnal sesiwn clwb

Mae gennym gannoedd o brosiectau rhad ac am ddim i'ch helpu i deilwra eich sesiynau i'ch crewyr ifanc. Rhowch gynnig ar y canlynol:

  • Sesiynau grŵp i fynd i'r afael â heriau gyda'n gilydd
  • Cyfarfodydd thematig i dynnu sylw at bynciau pwysig
  • Sesiynau dan arweiniad dysgwyr lle bydd crewyr yn dewis eu prosiectau eu hunain

Mae'n hawdd ac yn gyflym cynllunio eich sesiynau — gallwch gael gafael ar fwy na 200 o brosiectau, a fydd ar gael mewn hyd at 40 o ieithoedd.

Edrych ar y prosiectau codio

Adnoddau defnyddiol

Mae gennym bopeth sydd arnoch ei angen i ddechrau clwb: modiwlau hyfforddiant ar-lein, tystysgrifau, posteri, a llawer mwy.

Canllaw Code Club i arweinwyr

Dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'ch helpu i ddechrau a rhedeg eich Code Club eich hun.

Llythyr yn estyn allan i ysgolion

Anfonwch y llythyr hwn at ysgolion yn eich ardal chi i roi gwybod iddynt am Code Club.

Gweithgareddau torri'r garw

Dechreuwch eich sesiwn gyda gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i groesawu crewyr ac annog rhyngweithio.

Lle diogel i greu

Mae diogelu ein haelodau wrth galon popeth a wnawn. Mae ein hadnoddau diogelu yn helpu i wneud yn siŵr bod gennych chi'r polisïau a’r arferion cywir ar waith er mwyn i chi fod yn gallu creu mannau diogel a chynhwysol lle gall pobl ifanc ddysgu sut mae codio.

Cwrdd â'r gymuned

Dewch i ddysgu am rai o'r mentoriaid gwych sy'n rhedeg clybiau Code Club ym mhedwar ban y byd.

Mentoring the tech talent of tomorrow

Yang is passionate about creating opportunities for young people to explore computing, and she has brought her colleagues along on the journey too.

Sharing her passion for computer science

While studying in the UK, Nadia started volunteering at a Code Club to immerse herself in the local community. She now aims to introduce a Code Club in every school in Iraq.

From chemistry to coding

Science teacher Spencer, who later transitioned to teaching computer science, began a Code Club in his science lab to give his students access to coding.

Cymorth a chefnogaeth

Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch cefnogi chi i wneud clybiau Code Club yn lleoedd creadigol, hwyl, a diogel i bobl ifanc gael dysgu. Ewch i'n tudalen cymorth i ddod o hyd i gwestiynau cyffredin, neu i gysylltu â thîm Code Club.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.