Dod o hyd i'ch clwb
Rydyn ni'n credu y dylai pob person ifanc gael y cyfle i ddysgu sut mae codio. Rydyn ni'n gweithio gyda chymuned fyd-eang o fentoriaid i wireddu hyn.
Rydyn ni'n credu y dylai pob person ifanc gael y cyfle i ddysgu sut mae codio. Rydyn ni'n gweithio gyda chymuned fyd-eang o fentoriaid i wireddu hyn.
Mae clybiau angen mentoriaid sydd â gwahanol sgiliau a chefndiroedd i annog crewyr ifanc. Does dim angen i chi fod yn rhaglennydd nac yn arbenigwr ym maes technoleg i gymryd rhan.
Rydyn ni'n darparu adnoddau fel canllawiau i brosiectau, tystysgrifau a phosteri yn rhad ac am ddim, ac rydyn ni'n cynnig cymorth drwy weithdai ar-lein, digwyddiadau cymunedol, a desg gymorth ar-lein.
Mae diogelu ein haelodau wrth galon popeth a wnawn. Mae ein hadnoddau diogelu yn helpu i wneud yn siŵr bod gennych chi'r polisïau a’r arferion cywir ar waith er mwyn i chi fod yn gallu creu mannau diogel a chynhwysol lle gall pobl ifanc ddysgu sut mae codio.
Mae Code Club yn rhan o'r Raspberry Pi Foundation, sef elusen addysgol sydd â chenhadaeth fyd-eang i helpu pobl ifanc i wireddu eu llawn botensial drwy bŵer cyfrifiadura a thechnolegau digidol.