Cwestiynau cyffredin
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i fod yn fentor mewn Code Club?
Mae clybiau Code Club yn elwa o gael cymorth gan fentoriaid sydd â gwahanol sgiliau a chefndiroedd. Does dim angen profiad ym maes codio, addysgu na gwaith ieuenctid i fod yn fentor; y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw bod yn frwd dros helpu pobl ifanc i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau creu digidol.
A oes angen talu i fynd i Code Club?
Gallwch fynd i unrhyw glwb Code Club yn rhad ac am ddim! Ni ddylai pobl ifanc a'u rhieni neu warcheidwaid orfod talu i fynd i Code Club. Mae hyn wedi'i wreiddio yn egwyddorion Code Club ac mae'n rhan o Siarter Code Club.
A oes angen gwiriad cefndir ar fentoriaid?
Oes, mae'n rhaid i holl arweinwyr a mentoriaid Code Club gwblhau'r gwiriadau cefndir lleol angenrheidiol sy'n benodol i'w rhanbarth neu wlad er mwyn sicrhau diogelwch y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn Code Club.