Ein Polisïau

Mae ein polisïau'n helpu i sicrhau bod pob Code Club yn llefydd diogel i bobl ifanc a mentoriaid.

Ein hymrwymiad i ddiogelu

Rydyn ni am sicrhau bod pob person ifanc yn Code Club yn gallu datblygu ei sgiliau digidol mewn amgylchedd hwyliog a diogel. Mae Code Club wedi ymrwymo i ddilyn arferion gorau o ran diogelu, ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod mentoriaid ac arweinwyr clybiau'n gwybod sut mae amddiffyn eu hunain a'r plant y maent yn gweithio gyda nhw.

Mewn clybiau Code Club mewn ysgolion, dylai mentoriaid gael eu goruchwylio gan staff yr ysgol bob amser yn ystod y sesiynau.

Sut mae rhoi gwybod am bryder diogelu

Gall pryder diogelu fod yn unrhyw beth sy'n gwneud i chi feddwl ddwywaith am ddiogelwch neu les plentyn.

Os oes gennych chi bryder diogelu, dylech chi godi'r mater yn gyntaf gyda'r staff sy'n rheoli lleoliad eich clwb. Dylid rhoi gwybod yn uniongyrchol i dîm Code Club am unrhyw bryderon diogelu sydd wedi'u nodi o ganlyniad i gymryd rhan mewn Code Club gan ddefnyddio ein ffurflen adroddiad diogelu.

Gallwch chi hefyd gysylltu â ni ar safeguarding@raspberrypi.org, neu os oes gennych chi bryder brys, ffoniwch ein rhif diogelu rhad ac am ddim +44 (0)800 1337 112 sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Siarter Code Club

Pan fyddwch chi'n cofrestru fel mentor clwb, byddwch chi'n cytuno i'n Siarter Code Club. Dylai pob mentor ddilyn ein cod ymddygiad hefyd.

Darllen y siarter

Canllawiau i Fentoriaid

Cyn mynd ati i ddechrau Code Club, rhaid i fentoriaid gwblhau unrhyw wiriadau cefndir lleol pwrpasol, a nodir yn y gyfraith, yn rhanbarth y clwb.

Rydyn ni hefyd yn argymell yn gryf bod pawb sy'n gwirfoddoli gyda'r Raspberry Pi Foundation a'i raglenni, gan gynnwys Code Club, yn cwblhau ein hyfforddiant diogelu.

Mae'r modiwl rhyngweithiol yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau, ac mae'n rhoi cyngor ymarferol ar ddiogelu a fydd yn helpu mentoriaid i greu amgylchedd dysgu diogel i bawb y maent yn ymgysylltu â nhw.

Gweld yr hyfforddiant diogelu
Club leaders talking in front of a laptop

Defnyddio'r brand Code Club

Mae llawer o bobl yn holi a gawn nhw ddefnyddio asedau ein brand, fel ein logo, ar wefannau, sianelau cyfryngau cymdeithasol, neu ddeunyddiau eraill ar gyfer eu clybiau.

Rydyn ni'n gwerthfawrogi hunaniaeth ein brand oherwydd mae'n cynrychioli'r gydnabyddiaeth a'r ymddiriedaeth sydd gan y gymuned yn ansawdd ein cynnyrch a'n hadnoddau. Serch hynny, rydyn ni hefyd yn sylweddoli y byddai Code Clubs eisiau addasu'r adnoddau hyn i ddiwallu eu hanghenion. I ymateb i hynny, rydyn ni wedi llunio'r canllawiau hyn i'ch helpu i addasu ein deunyddiau a chynnal hunaniaeth ein brand yr un pryd.

Mae croeso i chi gysylltu â ni yn support@codeclub.org i drafod hyn ymhellach.

Gweld canllawiau'r brand

Polisïau eraill

Polisïau perthnasol eraill yw ein polisi cwcis, ein polisi preifatrwydd a'n datganiad hygyrchedd.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.