Dysgu sut mae codio gyda Code Club

Mae gan ein prosiectau gyfarwyddiadau cam wrth gam i'ch dysgu sut mae creu gemau, animeiddiadau, a llawer mwy. Dewiswch o blith cannoedd o opsiynau, mewn hyd at 30 o ieithoedd.

Dechrau gyda llwybr prosiectau

Mae pob un o'n llwybrau prosiectau yn eich arwain drwy gyfres o chwe phrosiect a fydd yn eich helpu i feithrin eich sgiliau codio a dylunio.

Scratch

Dewch i greu animeiddiadau, apiau, a straeon rhyngweithiol drwy ychwanegu codau, gwisgoedd a sain.

Python

Dewch i greu celf digidol a mwy wrth archwilio un o ieithoedd rhaglennu mwyaf poblogaidd y byd.

Cover art image for the Artificial Intelligence learning pathway

Deallusrwydd Artiffisial

Darganfyddwch gysyniadau sylfaenol dysgu peirianyddol drwy brosiectau creadigol gan ddefnyddio rhaglenni a thechnolegau Deallusrwydd Artiffisial.

Darganfod sut mae codio gyda Code Club World

Ewch ati i greu pethau diddorol wrth ddysgu sut mae codio! Ewch o amgylch ynys a chymryd rhan mewn gweithgareddau neu gemau hwyliog.

Mynd i Code Club World

Rhoi cynnig ar raglennu gyda thestun

Os hoffech chi roi cynnig ar raglennu testun, mae'r gweithgaredd hwn yn lle gwych i ddechrau arni. Dewch i gael gwybod am hanfodion Python wrth adeiladu ap peintio.

Rhowch gynnig ar y prosiect

Dangoswch eich creadigrwydd gyda Code Editor

Defnyddiwch y Code Editor sydd wedi'i greu gan y Raspberry Pi Foundation i greu eich gemau a'ch celf eich hun gan ddefnyddio Python, neu i ddylunio gwefannau yn HTML, CSS, a JavaScript. Does dim angen creu cyfrif!

Mynd ati i godio

Dewis prosiect

Mae gennym ni brosiectau i bawb, p'un a ydych chi am fod yn greadigol gyda Scratch neu Python, creu gwefan gyda HTML, archwilio cyfrifiadura ffisegol gyda Raspberry Pi Pico neu'r BBC micro:bit, neu adeiladu byd 3D gydag Unity.

Gweld pob prosiect

Ymuno â Code Club

Yn Code Club, gallwch chi feithrin eich sgiliau a chwrdd â chrewyr digidol ifanc eraill yn eich ardal chi.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.