Cymuned fyd-eang o glybiau
Pwy ydyn ni
Un cymuned ydyn ni, ac rydyn ni ar gael ym mhedwar ban y byd. Rydyn ni'n cynnig gofod i bawb gael dysgu, creu a datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r byd digidol.
Ein nod
Rydyn ni am gefnogi miliynau o bobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth, a'r meddylfryd i'w galluogi i ffynnu mewn byd sy'n cael ei lywio fwyfwy gan dechnolegau digidiol.
Ein hegwyddorion
Mae pedair egwyddor yn ein siapio ni, sy'n llywodraethu sut rydyn ni'n ymddangos yn y byd: rhyddid a chwarae, agored i bawb, wedi cysylltu'n fyd-eang, a chael ein harwain gan arbenigwyr.