Helpu i dyfu Code Club
Mae ein partneriaid yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o dyfu Code Club. Dysgwch sut gall eich mudiad chi gymryd rhan, gan gynnwys dechrau clybiau, cyfieithu adnoddau a chyfrannu at gefnogi ein gwaith.
Mae clybiau Code Club yn cael eu rhedeg ym mhedwar ban y byd, ac maent wedi helpu miliynau o bobl ifanc i ddysgu sut mae codio. Gall eich mudiad chi gymryd rhan a helpu i gyflwyno Code Club i ragor o bobl ifanc.
Mae ein partneriaid yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o dyfu Code Club. Dysgwch sut gall eich mudiad chi gymryd rhan, gan gynnwys dechrau clybiau, cyfieithu adnoddau a chyfrannu at gefnogi ein gwaith.
Mae Partneriaid Byd-eang yn cefnogi rhwng 10 a mwy na 1000 o glybiau, gan weithio gyda'u cymunedau i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at godio yn rhad ac am ddim.
Rydyn ni'n gweithio gyda rhwydwaith o fudiadau ym mhedwar ban y byd. Mudiadau nid-er-elw dan arweiniad gwirfoddolwyr yw'r rhan fwyaf o'n partneriaid, gyda'r gallu i dyfu a chynyddu rhwydwaith o glybiau.
Hoffem ddiolch i'r mudiadau sydd wedi cyfrannu'n hael at ein gwaith i rymuso pobl ifanc i fod yn grewyr digidol. Os hoffech chi drafod sut gallwch chi gefnogi ein gwaith, anfonwch e-bost i partners@raspberrypi.org.
Helpwch i gyfieithu ein gwefan a'n hadnoddau fel eu bod yn hygyrch i fwy o bobl ifanc a mentoriaid ym mhedwar ban y byd. Does dim angen profiad o gyfieithu na rhaglennu.
Dysgwch am waith ein Partneriaid Byd-eang ym mhedwar ban y byd.
16 Apr 2024
6 Mar 2024
4 Dec 2023