Code Club ydyn ni

Dysgwch sut mae codio a llywio'r dyfodol. Ymunwch â chymuned fyd-eang o grewyr digidol.

2+ miliwn

o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn Code Club dros 10 mlynedd

100+ o wledydd

yn darparu clybiau Code Club gweithredol

90%

o bobl ifanc yn meithrin eu sgiliau ac yn fwy annibynnol wrth godio

Ymunwch â chymuned Code Club

Mae clybiau Code Club yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob person ifanc oedran ysgol. Dysgwch sut mae ymuno â chlwb, dechrau eich clwb eich hun, neu wirfoddoli mewn clwb yn eich cymuned chi.

Ymuno â chlwb

Dysgwch sut mae codio, datblygu eich sgiliau a chael hwyl. Ymunwch â'ch cymuned lleol o grewyr ifanc.

Rhedeg clwb

Dewch i ysbrydoli pobl ifanc yn eich cymuned. Does dim angen unrhyw brofiad codio arnoch i redeg Code Club.

Gwirfoddoli mewn clwb

Dewch i ddysgu sgiliau newydd a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o grewyr digidol. Ymunwch â'ch clwb lleol.

Cwrdd â'r gymuned

Roedd gan Sahibjot ddiddordeb cynnar mewn gemau, ac aeth ati i ddysgu sut mae creu ei gêm ei hun! Y cam nesaf yn ei daith codio oedd ymuno â chlwb Code Club yn ei ysgol.

Darllenwch stori Sahibjot

Lle diogel i greu

Mae diogelu ein haelodau wrth galon popeth a wnawn. Mae ein hadnoddau diogelu yn helpu i wneud yn siŵr bod gennych chi'r polisïau a’r arferion cywir ar waith er mwyn i chi fod yn gallu creu mannau diogel a chynhwysol lle gall pobl ifanc ddysgu sut mae codio.

Archwilio ein prosiectau codio

Mae gennym gannoedd o brosiectau rhad ac am ddim i'ch helpu i ddysgu sut mae codio a bod yn greadigol mewn gwaith creu digidol. P'un a ydych chi'n godiwr profiadol neu newydd ddechrau arni, mae yna brosiect ar gael i bawb.

Mynd ati i godio

Y newyddion a'r straeon diweddaraf

Beyond the classics: exploring Code Club projects in 2025

16 January 2025

Passion, purpose, play — why do volunteers run Code Clubs?

9 January 2025

Code Club community celebrates top moments from 2024

18 December 2024

Mae Code Club yn rhan o'r Raspberry Pi Foundation

Mae Code Club yn rhan o'r Raspberry Pi Foundation, sef elusen addysgol sydd â chenhadaeth fyd-eang i helpu pobl ifanc i wireddu eu llawn botensial drwy bŵer cyfrifiadura a thechnolegau digidol.

raspberrypi.org

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.