Code Club Slack

Y ffordd hawdd ac am ddim o gysylltu â chymuned Code Club.

Beth yw Slack?

Ap negeseuon sy'n dod â chymuned Code Club at ei gilydd mewn un lle yw Slack. Mae trafodaethau'n cael eu trefnu'n sianeli penodol i bwnc, a gallwch chi anfon negeseuon, gwneud galwadau llais neu fideo, a rhannu adnoddau defnyddiol â'r gymuned.

Mae'r pynciau'n cynnwys adnoddau dysgu, hygyrchedd, amrywiaeth a hyfforddiant. Dylai pob neges yn Slack fod yn berthnasol i Code Club.

Ymuno â'r sgwrs

Cofrestrwch gyfrif ar Code Club Slack i ymuno â'r sgwrs, neu mewngofnodwch i Slack os ydych chi eisoes wedi creu cyfrif ar Code Club Slack.

Trafod Code Club, ble bynnag ydych chi

Mewngofnodwch i'n rhaglen Code Club i gael hysbysiadau ac i ateb yn syth o'ch ffôn clyfar, iPhone neu fwrdd gwaith.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.