Canllaw i fentoriaid
Canllaw i helpu mentoriaid i arwain eu clybiau Code Club yn llwyddiannus
Defnyddio'r brand Code Club
Mae llawer o bobl yn holi a gawn nhw ddefnyddio asedau ein brand, fel ein logo, ar wefannau, sianelau cyfryngau cymdeithasol, neu ddeunyddiau eraill ar gyfer eu clybiau.
Rydyn ni'n gwerthfawrogi hunaniaeth ein brand oherwydd mae'n cynrychioli'r gydnabyddiaeth a'r ymddiriedaeth sydd gan y gymuned yn ansawdd ein cynnyrch a'n hadnoddau. Serch hynny, rydyn ni hefyd yn sylweddoli y byddai Code Clubs eisiau addasu'r adnoddau hyn i ddiwallu eu hanghenion. I ymateb i hynny, rydyn ni wedi llunio'r canllawiau hyn i'ch helpu i addasu ein deunyddiau a chynnal hunaniaeth ein brand yr un pryd.
Mae croeso i chi gysylltu â ni yn support@codeclub.org i drafod hyn ymhellach.