Cyfrifon i grewyr

Dysgwch fwy am gyfrifon y Raspberry Pi Foundation y gall pobl ifanc, neu grewyr, eu defnyddio yn eu Code Club lleol.

Cyfrifon Raspberry Pi Foundation

Mae arweinwyr clybiau'n creu cyfrif drostynt eu hunain, pan fyddant yn cofrestru eu Code Club ar ein gwefan. Mae hyn yn eu galluogi i reoli proffil y clwb, creu digwyddiadau lle bydd angen tocynnau, anfon e-byst at danysgrifwyr eu clybiau a chael gafael ar adnoddau'n hawdd i helpu i redeg y clwb.

Fodd bynnag, gall unrhyw un gofrestru ar gyfer cyfrif Raspberry Pi Foundation. Gall crewyr ddefnyddio cyfrifon Raspberry Pi Foundation i wneud y canlynol:

Does dim rhaid cofrestru ar gyfer cyfrif Raspberry Pi Foundation; gall crewyr ddefnyddio'r Code Editor a chael mynediad at ein holl brosiectau creu digidol heb orfod creu gyfrif.

Os byddwch chi'n penderfynu annog eich crewyr i gofrestru ar gyfer cyfrif Raspberry Pi Foundation, byddwch yn ymwybodol y bydd angen i riant neu warcheidwad roi ei gyfeiriad e-bost i grewyr o dan 13 oed i greu'r cyfrif.

Gall hyn arwain at heriau yn ystod sesiynau Code Club pan na fydd rhieni neu warcheidwaid yn bresennol, gan na fydd gennych chi'r gallu i ailosod cyfrineiriau, dilysu cyfrifon, na dod o hyd i fanylion cyfrif ar gyfer eich crewyr.

Gall crewyr sy'n 13 oed neu'n hŷn greu cyfrif Raspberry Pi Foundation heb fod angen caniatâd rhiant neu warcheidwad.

Mae'r llythyr isod yn egluro sut gall rhieni a gwarcheidwaid greu cyfrifon Raspberry Pi Foundation i'w plant.

Llythyr yn egluro sut mae creu cyfrif

Cyfrifon defnyddiol eraill

Mae llawer o glybiau Code Club yn defnyddio iaith rhaglennu Scratch yn eu sesiynau. Er mwyn helpu pobl ifanc i weithio drwy ein prosiectau Scratch, rydyn ni'n argymell bod gan grewyr gyfrif Scratch i'w galluogi i gadw a rhannu eu gwaith.

Gall crewyr greu eu cyfrifon Scratch eu hunain gyda rhiant neu warcheidwad gartref, a dod â'u manylion mewngofnodi i sesiynau'r clwb. Fel arall, gall arweinwyr clybiau greu Cyfrifon Scratch i Ddisgyblion ar gyfer eu crewyr os ydyn nhw'n cofrestru ar gyfer Cyfrif Scratch i Athrawon.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Info Html