Bod yn Bartner Byd-eang

Rydyn ni'n creu partneriaethau â rhywdwaith amrywiol o fudiadau sydd wedi ymrwymo i dyfu clybiau codio yn rhad ac am ddim ym mhedwar ban y byd.

What does partnering with us look like?

We work with partner organisations around the world to bring Code Club to young people in their regions. We work together by combining partners' local expertise and networks with our content, training, and support.

Apply now
Three people in conversation during the Global Clubs Partnership meet up

Mathau o bartneriaethau byd-eang

Mudiadau nid-er-elw dan arweiniad gwirfoddolwyr yw'r rhan fwyaf o'n partneriaid, gyda'r gallu i dyfu a chynyddu rhwydwaith o glybiau.

Partneriaid Deori

Rydyn ni'n cefnogi Partneriaid Deori i sefydlu clybiau yn eu cymuned neu ranbarth lleol. Mae'r rhaglen Deori yn rhedeg am 12mis, ac mae pob Partner Byd-eang yn dechrau fel Partner Deori.

Partneriaid Twf

Mae Partneriaid Twf yn canolbwyntio ar gefnogi twf eu rhwydwaith Code Club yn eu cymuned neu ranbarth lleol. Maen nhw'n dechrau gydag o leiaf 10 clwb, a byddan nhw'n gweithio i dyfu a chyrraedd hyd at 100 o glybiau.

Partneriaid Cenedlaethol

Mae Partneriaid Cenedlaethol yn cefnogi'r holl glybiau a'r mentoriaid yn eu gwlad. Mae ganddynt y capasiti a'r uchelgais i weithio a thyfu'r rhwydwaith o glybiau ar hyd a lled y wlad.

Ein Partneriaid Byd-eang

Mae ein partneriaid yn cefnogi rhwng 10 a mwy na 1000 o glybiau, gan weithio gyda'u cymunedau i ddarparu mannau yn rhad ac am ddim i bobl ifanc gael dysgu sut mae codio a gwaith creu digidol. Mudiadau nid-er-elw dan arweiniad gwirfoddolwyr yw'r rhan fwyaf o'n partneriaid, gyda'r gallu i dyfu a chynyddu rhwydwaith o glybiau.

Manteision o weithio gyda ni

  • Bod yn rhan o rwydwaith anhygoel o fudiadau partner sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau
  • Cael gafael ar adnoddau a chymorth sydd wedi'u teilwra'n benodol i fudiadau partner
  • Rhedeg rhaglen gyda dylanwad amlwg
  • Bod yn gysylltiedig yn gyhoeddus â Code Club a'r Raspberry Pi Foundation
  • Gweithio gyda chyswllt cymorth ymroddedig o'n tîm hynod brofiadol
  • Cael mynediad sy'n benodol i bartneriaid at ein digwyddiadau fel Coolest Projects, cyfarfodydd partneriaid, gweithdai ar-lein, a mwy

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Info Html