Mentora mewn Code Club

Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth? Gyda chlybiau mewn mwy na 100 o wledydd, dechreuwch ar eich taith i fod yn fentor mewn clwb yn eich ardal chi.

Cefnogi crewyr ifanc

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr ym maes technoleg i fod yn fentor; y cwbl sydd ei angen arnoch chi yw bod yn barod i arwain crewyr ifanc. Mewn gwirionedd, mae defnyddio ein prosiectau gyda phobl ifanc yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd.

Dod o hyd i Code Club

Mwy na dim ond dysgu sut mae codio

Mae clybiau Code Club yn cynnig cymaint mwy i bobl ifanc na dim ond dysgu sut mae codio. Byddwch chi'n eu cefnogi i ddysgu sgiliau bywyd fel gwaith tîm a rheoli prosiect, a helpu i greu amgylchedd hwyliog ar yr un pryd. Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn cefnogi arweinydd y clwb gyda thasgau trefniadol, fel logisteg lleoliadau, rheoli'r cyfryngau cymdeithasol, a chodi ymwybyddiaeth yn y gymuned leol.

Barod i ddechrau mentora?

1. Dod o hyd i glwb

Dewch o hyd i glwb yn eich ardal chi, a gofynnwch i wirfoddoli. Bydd hyn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag arweinydd y clwb.

2. Cael gwiriad cefndir

Dilynwch bolisïau eich rhanbarth i gael gwiriad cefndir - edrychwch ar ein canllaw.

3. Cwrdd ag arweinydd y clwb

Paratowch at eich sesiwn gyntaf gydag arweinydd y clwb drwy benderfynu sut gallwch chi ddefnyddio eich cryfderau orau.

Digwyddiadau a hyfforddiant

Datblygwch eich sgiliau a'ch hyder drwy ein cyfleoedd hyfforddi a'n digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Gweld y digwyddiadau sydd ar y gweill

Cwrdd â'r gymuned

Dechreuodd Nadia wirfoddoli mewn Code Club lleol wrth astudio yn y DU. Rhoddodd gyfle iddi fod yn rhan o'r gymuned leol a chael rhannu ei harbenigedd ym maes cyfrifiadura â phobl ifanc.

Darllenwch stori Nadia

Cymorth a chefnogaeth

Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch cefnogi chi i wneud clybiau Code Club yn lleoedd creadigol, hwyl, a diogel i bobl ifanc gael dysgu. Ewch i'n tudalen cymorth i ddod o hyd i gwestiynau cyffredin, neu i gysylltu â thîm Code Club.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.