Bod yn Bartner Byd-eang

Rydyn ni'n creu partneriaethau â rhywdwaith amrywiol o fudiadau sydd wedi ymrwymo i dyfu clybiau codio yn rhad ac am ddim ym mhedwar ban y byd.

Sut beth yw creu partneriaeth gyda ni?

Rydyn ni'n gweithio gyda mudiadau partner ym mhedwar ban y byd i ddarparu Code Club i bobl ifanc yn eu rhanbarthau. Rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd drwy gyfuno arbenigedd a rhwydweithiau lleol partneriaid â'n cynnwys, ein hyfforddiant a'n cymorth.

Gwneud cais nawr
Three people in conversation during the Global Clubs Partnership meet up

Mathau o bartneriaethau byd-eang

Mudiadau nid-er-elw dan arweiniad gwirfoddolwyr yw'r rhan fwyaf o'n partneriaid, gyda'r gallu i dyfu a chynyddu rhwydwaith o glybiau.

Partneriaid Deori

Rydyn ni'n cefnogi Partneriaid Deori i sefydlu clybiau yn eu cymuned neu ranbarth lleol. Mae'r rhaglen Deori yn rhedeg am 12mis, ac mae pob Partner Byd-eang yn dechrau fel Partner Deori.

Partneriaid Twf

Mae Partneriaid Twf yn canolbwyntio ar gefnogi twf eu rhwydwaith Code Club yn eu cymuned neu ranbarth lleol. Maen nhw'n dechrau gydag o leiaf 10 clwb, a byddan nhw'n gweithio i dyfu a chyrraedd hyd at 100 o glybiau.

Partneriaid Cenedlaethol

Mae Partneriaid Cenedlaethol yn cefnogi'r holl glybiau a'r mentoriaid yn eu gwlad. Mae ganddynt y capasiti a'r uchelgais i weithio a thyfu'r rhwydwaith o glybiau ar hyd a lled y wlad.

Ein Partneriaid Byd-eang

Mae ein partneriaid yn cefnogi rhwng 10 a mwy na 1000 o glybiau, gan weithio gyda'u cymunedau i ddarparu mannau yn rhad ac am ddim i bobl ifanc gael dysgu sut mae codio a gwaith creu digidol. Mudiadau nid-er-elw dan arweiniad gwirfoddolwyr yw'r rhan fwyaf o'n partneriaid, gyda'r gallu i dyfu a chynyddu rhwydwaith o glybiau.

Manteision o weithio gyda ni

  • Bod yn rhan o rwydwaith anhygoel o fudiadau partner sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau
  • Cael gafael ar adnoddau a chymorth sydd wedi'u teilwra'n benodol i fudiadau partner
  • Rhedeg rhaglen gyda dylanwad amlwg
  • Bod yn gysylltiedig yn gyhoeddus â Code Club a'r Raspberry Pi Foundation
  • Gweithio gyda chyswllt cymorth ymroddedig o'n tîm hynod brofiadol
  • Cael mynediad sy'n benodol i bartneriaid at ein digwyddiadau fel Coolest Projects, cyfarfodydd partneriaid, gweithdai ar-lein, a mwy

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ein cylchlythyr

Info Html