Prosiectau Code Club nawr ar gael yn Gymraeg / Code Club resources are now available in Welsh

(English version below)

Ry’n ni’n falch i gyhoeddi fod prosiectau ac adnoddau Code Club nawr ar gael yn Gymraeg! Dyma’r tîm sy’n gyfrifol am y prosiect yn trafod pam fod cyfieithu ein prosiectau wedi bod mor bwysig.

Yng Ngorffennaf 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio strategaeth Cymraeg 2050 i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050. Fel rhan o hyn, fe wnaeth y llywodraeth lansio grant arloesi i gefnogi prosiectau sy’n cynyddu’r defnydd o Gymraeg trwy dechnoleg.

Screen Shot 2018-05-23 at 09.22.10

Pan lansiwyd grant y llywodraeth, fe wnaeth ein Cydlynydd yng Nghymru, Adam Williams, gydweithio gyda Cered, Menter Iaith Ceredigion i ddatblygu prosiect peilot oedd yn galluogi ni i ddatblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg, a hefyd i ddarparu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg. Meddai Adam:

Pan ddechreuais weithio gyda Code Club, roedd hi’n nod i fi i wella ein darpariaeth Cymraeg. Fe wnaethon ni wrando ar yr adborth gan ein cymuned o addysgwyr a gwirfoddolwyr, oedd yn aml wedi canolbwyntio ar y pwysigrwydd o gael adnoddau a phrosiectau ar gael yn eu mamiaith. Fel Cymro, rydw i’n ymwybodol iawn pa mor bwysig yw hi i’r gymuned bod mynediad i adnoddau Code Club yn Gymraeg.

Adnoddau Cymraeg

Mae gennym ni 21 o brosiectau Code Club wedi eu cyfieithu, yn cynnwys Scratch, HTML & CSS a Python. Mae hefyd gennym ni fersiynau Cymraeg o adnoddau sydd yn cynnwys tystysgrifau, posteri a ffurflenni caniatâd – popeth sydd angen arnoch chi i redeg Clwb Codio yn Gymraeg. Mae modd dod o’r hyd i’r adnoddau trwy fewngofnodi a chlicio “Lawrlwythwch dystysgrifau a phosteri yn Gymraeg”.

Screen Shot 2018-05-23 at 09.35.22

Hyfforddiant Cymraeg

Fel rhan i’n gwaith gyda Cered, fe wnaethon ni hefyd drefnu pump o sesiynau ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ yn gyfan gwbl Gymraeg. Rydyn ni’n falch i fod wedi hyfforddi 25 o athrawon a gwirfoddolwyr brwdfrydig. Roedd pob un wnaeth ddod i’r sesiynau eisiau cychwyn eu clwb eu hunan, ac nawr mae’r adnoddau yno i wneud hynny!

Cyflwynwyd y sesiynau gan Lowri Johnston, wnaeth hefyd gyfieithu’r prosiectau ac adnoddau i Code Club. Meddai:

Dwi’n byw yng Nghaerfyrddin lle mae dros 50% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae addysg Gymraeg yn bwysig iawn yma, ac felly mae hefyd yn bwysig bod y plant yn medru dysgu sgiliau cyfrifiadurol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r prosiect wedi bod yn un gwych, a dwi’n falch bod adnoddau ar gael nawr ar gyfer addysgwyr Cymraeg. Dwi’n gobeithio mai hwn yw’r dechrau i gael llawer mwy ar gael yn Gymraeg!

IMG_4588

Meddai Llinos Hallgarth o Cered:

Mae wedi bod yn bleser i ni fel Cered i fod ynghlwm â’r prosiect yma ar y cyd â Code Club, ac i ddatblygu’r adnoddau sydd ar gael i ddysgu codio trwy gyfrwng y Gymraeg i blant. Yn ystod y sesiynau hyfforddi, rydym wedi cael cyswllt gyda athrawon a gwirfoddolwyr ar draws Ceredigion a’r de orllewin sydd eisiau cychwyn clybiau codio yn eu hardal, ac mae’n wych ein bod ni wedi paratoi’r adnoddau trwy’r prosiect yma fel eu bod yn gallu mynd ati i wneud hynny.

Roedd paratoi’r prosiectau yn Gymraeg yn broses o gydweithio llwyddiannus, ac hoffwn ddiolch i Cered, a wnaeth y gwaith yma’n bosib. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o blant yng Nghymru i godio!

Os oes ganddo’ch chi unrhyw adborth byddwn wrth ein bodd yn clywed wrthoch chi. Mae modd i chi roi adborth trwy lenwi’r ffurflen hon.

 


 

We are excited to announce that a number of the Code Club projects and resources are now available in Welsh! Here the team behind the project talks about why translating our resources is so important.

In July 2017, the Welsh government launched the Cymraeg 2050 strategy to grow the number of Welsh speakers to 1 million by 2050. As part of this, the government launched an innovation grant to support projects that increase the use of Welsh through technology.

When the government’s grant was launched, our coordinator for Wales, Adam Williams, collaborated with an organisation called Menter Iaith Cered to develop a pilot project that would not only enable us to create Welsh-language resources, but also to provide educators access to Code Club training in Welsh. Adam says:

When I came to work at Code Club, I made it my goal to improve our Welsh language provisions. We listened to feedback from our community of educators and volunteers, who often talk about the importance of having the resources and projects available in their mother tongue. As a Welsh person, I fully understand how important it is for our community in Wales to be able to access the Code Club resources in Welsh.

Translated resources

You can now access our Scratch Module 1 and Module 2 in Welsh; translations for Python and HTML/CSS will follow shortly. On top of that, there are some Welsh certificates and posters available on your Club Hub — just look for the link that says ‘Lawrlwythwch dystysgrifau a phosteri yn Gymraeg’.

Screen Shot 2018-05-23 at 09.37.02

Welsh training sessions

As part of our work with Menter Iaith Cered, we also arranged five ‘Train the trainer’ sessions entirely in Welsh. We were really pleased to be able to train 25 enthusiastic teachers and potential volunteers. Everyone who attended left the sessions wanting to start their own club, and now the resources are available for them to do exactly that!

The training sessions were co-delivered by the amazing Lowri Johnston, who also translated the Code Club projects and resources for us. She told us:

I live in Carmarthen in South West Wales, where over 50% of the population speak Welsh. Most of the primary schools in the area are Welsh-language, so it’s important that they are able to learn computer skills in Welsh.

The whole project has felt really rewarding, and I’m so pleased there are now resources available for Welsh-speaking educators. I hope that this is just the beginning!

Llinos Hallgarth from Cered saysof the project:

It’s been a pleasure for us at Cered to be part of this project with Code Club, and to develop the resources that are available for children to learn to code in Welsh. During the training sessions, we’ve had contact with teachers and volunteers across Ceredigion and south-west Wales who want to start Code Clubs in their area, and it’s great that the resources are now available to do that in Welsh.

Translating our projects was a truly collaborative process, and we would like to thank Cered for making this project possible. We hope these resources will encourage more children in Wales to get coding!

If you have any feedback on our translations, we would love to hear from you! You can tell us what you think by filling in this form.

Keep up to date with our newsletter

You can unsubscribe at any time.